#
Rhif y ddeiseb: P-05-0754 Teitl y ddeiseb: Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Yr wyf yn ceisio tynnu sylw at yr angen i dîm argyfwng plant Cwm Taf gydnabod bod angen hanfodol i blant ag anableddau gael cymorth mewn argyfwng, a chael yr hawl i gael eu trin fel unrhyw blentyn arall. Yr wyf yn fam i bedwar o blant. Mae gan Tom, fy mab canol, anghenion niferus, anawsterau dysgu difrifol, awtistiaeth, anhwylder hwyliau yn ogystal â phroblemau iechyd ychwanegol eraill. Mae Tom yn cyrraedd pwynt argyfwng bob hyn a hyn, sy'n golygu cynnydd mewn ymddygiad ymosodol, gweiddi yn uwch nag arfer, anafu ei hun yn ogystal ag eraill, a llawer o newidiadau eraill mewn ymddygiad. Mae sgiliau cyfathrebu Tom yn hynod gyfyngedig ac nid yw'n gallu dweud wrthym beth sydd o'i le na beth y gallwn ei wneud i helpu. Rydym wedi bod ar bwynt argyfwng gyda Tom, sydd bellach yn 15 oed ac ar ddogn uchel o feddyginiaethau, lawer gwaith dros y blynyddoedd ac mae'n rhyfeddol nad yw’r sefyllfa wedi gwella o ran cymorth i blant ag anableddau pan fyddant mewn argyfwng. Mae Tom mewn argyfwng ar hyn o bryd, ac wedi bod felly ers peth amser. Ychydig iawn o gymorth yr ydym ni fel teulu wedi’i gael, os o gwbl, i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi cael gwybod bod tîm argyfwng plant yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw’n cefnogi plant ag anableddau! Siawns nad yw plentyn mewn argyfwng, p’un a oes ganddo anableddau neu beidio, yn dal i fod yn blentyn mewn argyfwng. Yn wir, efallai fy mod yn anghywir, ond mewn rhai achosion efallai bod angen mwy o gymorth argyfwng arno. Ni allaf gredu bod y rhaniad hwn yn dal i fod yn dderbyniol yn yr oes hon. Yr wyf yn ceisio tynnu sylw at yr angen i dîm argyfwng plant Cwm Taf gydnabod bod angen hanfodol i blant ag anableddau gael cymorth mewn argyfwng, a chael yr hawl i gael eu trin fel unrhyw blentyn arall. |
Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
i'r ddeiseb yn disgrifio sut y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi
mewn gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc, gan
gyfeirio at y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Un o
flaenoriaethau'r rhaglen hon yw gwella gwasanaethau
niwroddatblygiad i blant ag anhwylder diffyg canolbwyntio a
gorfywiogrwydd, ac awtistiaeth. Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet
yn nodi:
§ o dan y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, mae cyllid o £2.7 miliwn yn cael ei ddefnyddio i sefydlu timau gofal argyfwng mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS);
§ mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig cenedlaethol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru (erbyn 2018) i roi cymorth ychwanegol i blant, oedolion a theuluoedd i'w helpu i osgoi argyfwng.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Fel y disgrifir yn nogfen ganllaw Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Building and sustaining specialist CAMHS to improve outcomes for children and young people, mae 'gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc' yn gysyniad bras sy’n cwmpasu’r holl wasanaethau sy'n cyfrannu at ofal iechyd meddwl plant a phobl ifanc, p'un a ydynt yn cael eu darparu gan wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol, neu asiantaethau eraill. Mae'n cynnwys y gwasanaethau hynny lle nad eu prif swyddogaeth yw darparu gofal iechyd meddwl arbenigol, ond sydd â swyddogaeth gyffredinol o ran diwallu anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (er enghraifft meddygaeth teulu, ysgolion neu wasanaethau cyffredinol). Ystyr gwasanaethau arbenigol iechyd meddwl plant a phobl ifanc yw gwasanaethau sydd â chyfrifoldeb a chylch gwaith craidd i ddarparu gofal iechyd meddwl arbenigol.
Gall taith plentyn neu berson ifanc olygu symudiad drwy haenau/lefelau gwasanaeth mewn dull gofal graddol, wrth i'w gyflwr gael ei gydnabod fel un mwy cymhleth neu pan fydd y cyflyrau'n cael eu lleddfu. Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael gwasanaethau gan fwy nag un o'r haenau ar yr un pryd.
Yn 2014, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i wasanaethau arbenigol iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Nododd y Pwyllgor safbwynt Llywodraeth Cymru mai gwasanaeth meddygol arbenigol yw hwn ac nad y bwriad yw iddo fod yn ateb cyfan o ran diwallu anghenion pobl ifanc sy'n wynebu anawsterau emosiynol neu iechyd meddwl. Fodd bynnag, barn y Pwyllgor oedd:
§ nad oes lefel ddigonol o wasanaethau CAMHS yn cael ei darparu i ddiwallu anghenion y bobl ifanc yng Nghymru y mae angen gwasanaeth meddygol arbenigol arnynt; ac
§ mae'r diffyg gwasanaethau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny nad ydynt yn bodloni meini prawf y 'model meddygol' ar gyfer gwasanaethau CAMHS yn golygu bod lefel sylweddol o angen nad yw'n cael ei diwallu.
Cyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd y byddai adolygiad o CAMHS yn cael ei gynnal. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu drwy’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl ifanc.
Y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc
Lansiwyd Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc ar 26 Chwefror 2015 i ystyried ffyrdd o foderneiddio ac ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n rhaglen amlasiantaethol ar gyfer gwella gwasanaethau, dan arweiniad GIG Cymru ac wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Y ffrydiau gwaith y mae'r rhaglen yn eu blaenoriaethu yw:
§ blynyddoedd cynnar, gwytnwch a lles;
§ ymyrraeth gynnar a chymorth gwell;
§ anableddau iechyd meddwl/dysgu niwroddatblygiadol a chyd-glefydol;
§ llwybr arbenigol CAMHS.
Mae fframwaith gweithredu y Rhaglen yn datgan:
Mae’r gallu i nodi’n gynnar lle gallai fod angen ychwanegol am gymorth yn hollbwysig a bydd angen mwy o ffocws i sicrhau nad yw pobl ifanc angen CAMHS arbenigol.
Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig
Cyhoeddwyd y fersiwn newydd o'i Chynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn 2016. Un datblygiad allweddol yw sefydlu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol, â'r nod o gefnogi gwelliannau o ran y gwasanaethau diagnosis, triniaeth a chymorth i blant sy'n cael eu cyflwyno drwy'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.
Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol hefyd yn nodi bod pennod benodol am anableddau dysgu ac awtistiaeth bellach yn rhan o god ymarfer Cymru (diwygiwyd 2016) ar gyfer Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor y dylid defnyddio'r opsiynau lleiaf cyfyngol ac am y cyfnod lleiaf o amser, a'r disgwyliad y bydd dulliau cadarnhaol yn cael eu defnyddio i helpu i reoli ymddygiad heriol. Mae hyn hefyd yn cynnwys argymhellion ynghylch hyfforddiant priodol ar gyfer staff.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae dyletswydd ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i asesu lefelau'r angen am wasanaethau gofal a chymorth yn eu hardaloedd, a'r mathau o wasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu'r angen hwnnw. Un o themâu craidd yr asesiadau poblogaeth hyn yw anabledd dysgu/awtistiaeth.
Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, wedi bod yn datblygu Datganiad o Fwriad Strategol ar y cyd ar Anableddau Dysgu. Yng nghyd-destun Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), y weledigaeth yw y bydd plant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu (gan gynnwys y bobl hynny ag awtistiaeth ac anghenion cymhleth) yn gallu cael mynediad at wasanaethau effeithlon ac effeithiol sy'n galluogi canlyniadau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn atal anghenion a risg rhag gwaethygu drwy hyrwyddo ymyrraeth gynnar, atal problemau, mwy o annibyniaeth a mynediad at gyfleoedd. Mae'r ddogfen yn datgan y caiff hyn ei gyflawni drwy:
§ wneud y defnydd gorau o wasanaethau cyffredinol;
§ cynyddu ymyrraeth gynnar, atal problemau, gwybodaeth, cyngor a chymorth;
§ meithrin cymorth cymunedol a gwneud pobl yn fwy annibynnol;
§ helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain;
§ galluogi pobl i fyw bywydau llawn a chyflawni eu potensial;
§ cadw pobl yn ddiogel;
§ gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys codau ymarfer a sesiynau briffio ar rannau perthnasol o'r Ddeddf (fel asesu anghenion unigolion a diwallu anghenion) ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.